Canllaw Arddull Wrecsam Ifanc

Canllaw Arddull Wrecsam Ifanc

DS: Cyn darllen y canllaw, cofiwch mai adnodd cyfeirio ydi o felly peidiwch â gadael iddo eich atal rhag cyfrannu. Mae’r canllaw yn eich helpu chi i wella’ch arddull ysgrifennu, ond bydd ein tîm o olygyddion yn gallu gwneud hyn drosoch chi.

Bydd y canllaw yma yn eich helpu chi i ysgrifennu a llwytho erthyglau i fyny ar gyfer Wrecsam Ifanc. Mae’n sôn am bethau fel cyfrif geiriau, atalnodi, copïo a gludo, athrodi, cyfieithu, delweddau a fideos, hawlfraint a gosodiadau tudalen. Mae’r canllaw hwn yn syml, ond os hoffech chi fwy o wybodaeth am lwytho i fyny a Wrecsam Ifanc yn gyffredinol, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin, Amodau a Thelerau a’n Polisi Defnydd Derbyniol.

Os ydych chi’n credu ein bod ni wedi anghofio cynnwys rhywbeth yn y canllaw hwn, neu os oes adran nad ydych chi’n ei deall, anfonwch e-bost atom ni: infoshop@wrexham.gov.uk, neu ffoniwch y swyddfa ar 029 2046 2222.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n ysgrifennu eich erthyglau yn Microsoft Word yn gyntaf a chadw copi wrth gefn rhag ofn i bethau fynd o chwith (fel rhywun yn datgysylltu eich cysylltiad rhyngrwyd).

###

  1. Beth ydi Canllaw Arddull?

Mae gan bapurau newydd, cylchgronau a gwefannau eu strwythur ysgrifennu eu hunain. Canllaw arddull rydym ni’n ei alw. Mae’n bwysig bod pethau yn cael eu hysgrifennu mewn ffordd gyson, sy’n gwneud i’r cyhoeddiad neu’r wefan edrych yn broffesiynol.

###

  1. Beth fedraf i lwytho i fyny?

Unrhyw beth sydd arnoch chi eisiau. Mae Wrecsam Ifanc yn llwyfan i chi fynegi’ch hun yn emosiynol ac yn greadigol. Os oes yna rywbeth yn eich cythruddo chi yn eich ardal, rhowch wybod i bawb amdano. Os ydych chi wedi cyfansoddi cerdd am falwod, rhannwch honno hefyd.

###

  1. Sut ydw i’n llwytho pethau i fyny?

Mae dwy ffordd.

  1. Cofrestru i gyfrannu. Bydd hyn yn eich galluogi i lwytho lluniau a fideos i fyny gyda’ch erthygl, eu gosod yn daclus a’u gweld cyn iddyn nhw fynd yn fyw. Byddwch yn derbyn cyfrif a gallwch drefnu’ch erthyglau dan eich enw defnyddiwr.
  2. Neu, os nad oes arnoch chi eisiau cyfrif, fe allwch chi gyflwyno erthygl neu hysbysebu digwyddiad drwy’r dudalen gysylltu. Fel rheol bydd erthyglau yn cael eu cyhoeddi yn ddienw ac ni fyddwch yn gallu ychwanegu lluniau.

###

  1. Cymedroli

Ni fydd unrhyw beth yn mynd yn fyw hyd nes y bydd wedi ei wirio a’i olygu gan y golygydd neu’r is-olygyddion. Byddwn yn gwneud ein gorau i gyhoeddi pob erthygl ond, weithiau, bydd yn rhaid i ni gysylltu efo chi os oes rhywbeth yn anaddas neu’n aneglur.

###

  1. Newyddion / Ysbrydoliaeth

Mae cynnwys ym mhob man ac yn haws nag erioed i’w ddilyn yn yr oes hon o ffonau clyfar, tecstio, Trydar a Facebook. Os hoffech chi ysgrifennu erthygl, meddyliwch am eich cynulleidfa, sef pobl ifanc 11-25 oed.

###

  1. Gwerth Sylw

Pam y byddai ar bobl eisiau darllen eich erthygl? Ydi hi’n ddiddorol ac yn addysgiadol? Ydi hi’n archwilio pwnc ac yn datgelu pethau na fyddai llawer o bobl yn gwybod? Fysech chi’n ei darllen hi? Dyma bethau y dylech chi eu hystyried cyn mynd ati i ysgrifennu’ch erthygl.

###

  1. Ymchwil

Oni bai eich bod chi’n arbenigo yn y pwnc rydych chi’n ysgrifennu amdano, bydd arnoch chi angen ychydig o wybodaeth gefndir. Gwnewch yn siŵr bod eich ffeithiau a’ch ffigyrau yn gywir a chofiwch, mae pobl yn gallu gwneud sylw o dan eich erthygl ac amlygu unrhyw gamgymeriad.

###

  1. Pigion Gorau

Dyma erthyglau hirach nad ydyn nhw o reidrwydd yn sôn am faterion cyfoes. Bydd yn erthygl o ddiddordeb i bobl, hyd yn oes os nad ydi’r testun yn rhywbeth maen nhw fel arfer yn ymddiddori ynddo. Os hoffech chi awgrymu testun ar gyfer Pigion Gorau, anfonwch e-bost at infoshop@wrexham.gov.uk.

###

  1. Teitl eich Erthygl

Hynny ydi, eich pennawd. Bydd arnoch chi angen defnyddio’ch dychymyg i feddwl am bennawd byr a bachog. Ceisiwch feddwl am bennawd 6 gair neu lai. Methu meddwl am bennawd? Peidiwch â phoeni, fe allwn ni wneud hynny drosoch chi os oes angen.

###

  1. Ysgrifennu’r Erthygl

Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn ysgrifennu’r erthygl mewn dogfen Word yn gyntaf a’i chadw bob hyn a hyn. Mae hyn yn golygu y bydd gennych chi gopi wrth gefn o’ch erthygl. Fe allwch chi wedyn gopïo a gludo’r erthygl i’r dudalen ychwanegu erthygl newydd ar System Rheoli Cynnwys Wrecsam Ifanc, fe allwch chi fynd at y dudalen hon ar ôl i chi gofrestru a chreu’ch cyfrif. Fel arall, mi fedrwch chi ludo’r erthygl i’r ffurflen gysylltu.

###

  1. Is-benawdau

Gall wal fawr o destun fod yn anodd iawn i’w darllen ac mae pobl yn dueddol o frysio drwy erthyglau ar-lein. Mae is-benawdau sy’n crynhoi cynnwys y tamaid nesaf o destun neu ddewis a dethol dyfyniadau da a gwneud maint y ffont yn fwy yn gallu gwneud eich erthygl yn haws i’w darllen.

###

  1. Eich Personoliaeth

Plîs, plîs rhowch ychydig o’ch personoliaeth yn eich erthyglau. Rydym ni’n eich annog i wneud hynny. Os ydi’r testun rydych chi’n ysgrifennu amdano wedi effeithio arnoch chi, dywedwch wrthym ni a soniwch sut. Mae croeso i chi ddweud eich dweud neu ddweud rhywbeth â’ch tafod yn eich boch ond peidiwch â bod yn ddigywilydd nac yn sarhaus.

###

  1. Rhegi

Dydyn ni ddim yn caniatáu rhegi ar Wrecsam Ifanc oherwydd ystod oedran ein darllenwyr (11-25 oed). Ond, os ydych chi’n teimlo bod yn rhaid i chi regi, gwnewch hynny mewn ffordd ysgafn gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’ch erthygl. Fodd bynnag, ni allwn sicrhau y byddem yn cynnwys y rhegfeydd, a byddwn yn defnyddio sêr ar gyfer y rhegfeydd gwaethaf.

###

  1. Deunyddiau Sarhaus

Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw erthygl neu sylw (gwelwch bwynt 31) sy’n cynnwys iaith fygythiol, bwlio, homoffobig a hiliol ac ati.

###

  1. Cyffuriau, Alcohol, Tybaco, Trais, Pornograffi, Gamblo ac ati.

Bydd erthyglau neu luniau sy’n canu clod y pethau hyn yn cael eu golygu’n drwm, neu ddim yn cael eu cyhoeddi o gwbl, am yr un rhesymau ag erthyglau sy’n cynnwys rhegfeydd. Os ydych chi’n ysgrifennu erthygl gytbwys neu stori addysgiadol am un o’r testunau uchod, yna byddwn yn eich cefnogi a’ch helpu.

###

  1. Barn Grefyddol neu Wleidyddol

Beth bynnag eich credoau chi, cofiwch barchu credoau pobl eraill.

###

  1. Cyfrif Geiriau

Er nad oes cyfyngiad ar nifer y geiriau mewn erthygl, os ydych chi ond yn ysgrifennu ychydig o frawddeg bydd eich erthygl yn rhy fyr. Fel rheol mae erthyglau yn oddeutu 250 gair, ond mae cerddi yn gallu bod yn fyrrach.

###

  1. Sillafu ac Atalnodi

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n siŵr iawn o’ch gramadeg a’ch atalnodi, mae gennym ni olygyddion sy’n gallu cywiro gwallau. Plîs peidiwch â defnyddio iaith tecstio (LOLZ / MSL / THNX) ac wynebau gwenog (ond mae rhwydd hynt i chi eu defnyddio wrth wneud sylwadau o dan erthyglau).

###

  1. Gosodid eich Erthygl

Yn ogystal â defnyddio is-benawdau (gwelwch 11 uchod), defnyddiwch frawddegau a pharagraffau byr gan eu bod yn haws eu darllen ac yn edrych yn well ar y dudalen. Unwaith eto, peidiwch â phoeni’n ormodol am hyn oherwydd y bydd ein golygyddion yn gallu helpu i olygu’ch erthygl yn briodol. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio lluniau a fideos (gwelwch 32 a 37 isod) yn eich erthygl i wella ansawdd darllenadwy ac edrychiad eich erthygl.

###

  1. Copïo a Gludo

Peidiwch â chopïo a gludo mwy nag ychydig eiriau o wefannau eraill. Llên-ladrad rydym ni’n galw hyn ac fe allwn ni fynd i helynt. Yr unig eithriad i hyn ydi dyfynnu o wefannau ac ati, ond cofiwch nodi enw’r wefan mewn cromfachau ar ôl y dyfyniad.

###

  1. Ebychnodau

Efallai eich bod chi’n teimlo bod yn rhaid i chi roi ebychnod (!) ar ddiwedd pob brawddeg er mwyn cyfleu’ch emosiynau. Ond does dim angen i chi wneud hyn o gwbl. Bydd pobl yn dal yn gallu teimlo’ch dicter, eich digrifwch neu’ch anghrediniaeth hebddyn nhw.

###

  1. Priflythrennu Geiriau

Mae hyn fwy neu lai yr un peth â defnyddio ebychnodau. Mae priflythrennu geiriau i geisio cyfleu’ch neges neu’ch rhwystredigaeth yn edrych yn flêr ar y dudalen ac mae’n gallu edrych fel petaech yn gweiddi ar eich cynulleidfa.

###

  1. Ystrydebau

Cyfle na ddylid ei golli, gwledd i’r teulu cyfan, i gael hwyl a sbri dewch draw i…. Mae’r rhain i gyd yn ystrydebau y dylech chi eu hosgoi. Mae geiriau fel gwych, ardderchog ac anhygoel yn iawn ond ceisiwch ddefnyddio disgrifiadau gwreiddiol i gyfleu’ch neges.

###

  1. Ailadrodd

Mae’n hawdd iawn dechrau ailadrodd geiriau neu ymadroddion, yn enwedig pan fyddwch chi’n ysgrifennu erthygl hir. Cyn anfon eich erthygl beth am i chi ei darllen yn uchel i aelod o’ch teulu neu i ffrind, a defnyddio thesawrws i’ch helpu chi ganfod geiriau gwahanol?

###

  1. Athrodi

Ystyr hyn ydi gwneud datganiad neu adroddiad maleisus, ffug neu ddifenwol (www.dictionary.com). Hynny ydi cyhuddo rhywun o wneud rhywbeth heb dystiolaeth neu reswm da dros gredu hynny. Fe allwn ni (a chithau hefyd) fynd i helynt am hynny.

###

  1. Teitlau Ffilmiau a Llyfrau ac ati

Dylai llythyren gyntaf pob gair fod â phrif lythyren a dylai’r enw fod mewn italig e.e.  Harry Potter And The Order Of The Phoenix. Nid oes yn rhaid iddyn nhw fod mewn ‘dyfynodau’.

###

  1. Pwyntiau Bwled
  • Dylech chi roi prif lythyren ar ddechrau’r pwynt bwled, ond does dim rhaid i chi roi atalnod llawn ar y diwedd

###

  1. Adolygiadau

Os ydych chi’n adolygu rhywbeth (ffilm, cân, gig, llyfr, sioe), cofiwch gynnwys dolenni i wefannau a phethau fel oedran a hyd ffilmiau. Cofiwch hefyd gynnwys fideo o raglun y ffilm neu fideo o’r gân (gwelwch bwynt 33).

###

  1. Dolenni

Dylai pob erthygl gynnwys dolenni. Rhowch eich dolenni mewn cromfachau ar ôl y testun perthnasol. Fe allwch chi wedyn ychwanegu hyperddolen pan fyddwch chi’n gosod eich erthygl (neu fe allwn ni wneud hyn drosoch chi os ydych chi’n defnyddio’r ffurflen gysylltu).

###

  1. Cyfieithu

Os ydych chi’n gallu ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, byddai’n wych gweld eich erthygl yn ddwyieithog. Fel arall, bydd rhai erthyglau, fel rheol y Pigion Gorau (gwelwch bwynt 8 uchod), yn cael eu cyfieithu.

###

  1. Sylwadau

O dan pob erthygl fe welwch chi flwch i adael sylwadau. Mae croeso i chi ymateb i sylwadau, ond cofiwch barchu barn pobl eraill a bod y sylwadau hefyd wedi eu gwirio cyn eu cyhoeddi. Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Disqus i adael sylwadau ac rydym ni’n argymell yn gryf eich bod chi’n defnyddio cyfeiriad e-bost yn hytrach na’ch enw go iawn.

###

  1. Maint Lluniau

Gallwch lwytho lluniau JPG, PNG neu GIF i fyny (ydi, mae hyn yn cynnwys ‘gifs’ wedi eu hanimeiddio). Gallwch ddefnyddio lluniau tua 1000px o led. Bydd lluniau llai yn niwlog os ydych chi’n eu defnyddio fel lluniau clawr, ond mae modd eu cynnwys mewn erthyglau (rhowch nhw yn y canol). Os ydyn nhw rhy fawr ni fydd y wefan yn gallu ymdopi efo nhw (y terfyn llwytho i fyny ydi 8MB) ac mae unrhyw beth dros 1500px yn gallu achosi trafferthion. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i luniau addas, fe allwn ni wneud hynny drosoch chi.

###

  1. Newid maint a golygu lluniau

Mae yna swyddogaeth yn y System Rheoli Cynnwys sydd yn eich galluogi chi i docio a lleihau maint lluniau. Lluniau tirlun neu siâp bocs llythyrau sydd orau, gan fod llawer o luniau hir yn golygu gwaith sgrolio i lawr. Fe allwch chi hefydd ddefnyddio safleoedd fel pixlr.com i olygu a newid maint lluniau os ydyn nhw’n rhy fawr i’w llwytho i fyny (gwelwch bwynt 32 uchod)

###

  1. Hawlfraint

Os ydych chi’n llwytho lluniau rhywun arall i fyny bydd arnoch chi angen caniatâd y person. Os nad ydych chi wedi derbyn caniatâd, peidiwch â llwytho’r llun i fyny. Yn hytrach, rhowch ddolen i’r wefan sy’n cynnwys y llun ac fe wnawn ni edrych i mewn i’r peth. Mae mwy o wybodaeth am hawlfraint ar gael yma.

###

  1. Creative Commons (CC)

Mae Creative Commons yn ffordd boblogaidd iawn o rannu gwaith creadigol. Bydd yr artistiaid sy’n cymryd rhan yn eich caniatáu chi i ddefnyddio eu lluniau ar yr amod eich bod chi’n priodoli’r lluniau iddyn nhw ac yn cadw at reolau syml. Rydym ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio Compfight.com i chwilio am luniau CC ar Flickr.

###

  1. Priodoli lluniau i ffotograffwyr ac artistiaid

Os ydych chi’n defnyddio llun rhywun arall (gyda’u caniatâd) bydd gofyn i chi ychwanegu dolen at eu tudalennau oriel neu wefan o dan y llun er mwyn priodoli’r llun iddyn nhw. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yn rhaid i bob llun Creative Commons gael eu priodoli er mwyn i ni allu eu defnyddio ar wefan Wrecsam Ifanc.

###

  1. Llwytho Fideo i Fyny

Mae gludo dolen i fideo ar YouTube neu Vimeo i’ch erthygl ar y system rheoli cynnwys yn mewnosod y ddolen yn awtomatig. Ond gwnewch yn siŵr a) eich bod wedi derbyn caniatâd i ddefnyddio’r fideo, b) nad yw’r fideo yn cynnwys unrhyw beth sarhaus ac c) nad yw’r fideo wedi ei analluogi ar gyfer ei fewnosod.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch unrhyw ran o’r Canllaw Arddull, anfonwch neges at infoshop@wrexham.gov.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 029 2046 2222 i siarad efo aelod o’r tîm, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu chi.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham