Beth yw Wrecsam Ifanc?
Mae Wrecsam Ifanc ar gyfer pob person ifanc 11 – 25 sydd yn byw, gweithio neu'n astudio yn ardal Wrecsam. Mae'r wefan wedi'i ddylunio i roi gwybodaeth well i ti am weithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael i ti yn Wrecsam, a hefyd i roi gwybodaeth a chyngor ar faterion mae pobl ifanc yn wynebu o ddydd i ddydd. Mae'r wefan hefyd efo straeon newyddion, fideos a blogiau wedi'i wneud gan bobl ifanc yn yr ardal.
Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn teimlo’n saff gartref, yn yr ysgol ac yn eu cymuned. Os nad wyt ti’n teimlo’n saff oherwydd rhywbeth sy’n digwydd i ti neu os wyt ti’n poeni am rywun fel brawd neu chwaer, neu ffrind, dylet siarad â rhywun er mwyn cael help.





