Gwybodaeth » Addysg » Gyrfaoedd
- Mae gennym ni i gyd ein breuddwydion ynglŷn â’r hyn rydym ni eisiau bod yn y dyfodol.
- Ond ydych chi’n gwybod p’un a yw eich breuddwydion yn realistig ai peidio?
- Ydych chi’n gwybod sut i gael eich swydd ddelfrydol a ph’un a fydd hi wir yn gweddu ichi?
- Pan fyddwch chi yn yr ysgol neu’r coleg, mae gennych chi’r hawl i drafod eich syniadau â Chynghorydd Gyrfa o Gyrfa Cymru. Gallan nhw eich helpu chi i edrych ar eich syniadau gyrfa a’r ffordd orau o’u cyflawni i chi.
- Cewch gyfle i weld Cynghorydd Gyrfa yn ystod trafodaethau yn ymwneud â gyrfaoedd yn yr ystafell ddosbarth a hefyd yn ystod Cyfweliad Gyrfaoedd unigol. Dylech chi gael cyfweliad Gyrfaoedd yn awtomatig yn ystod Blwyddyn 9 ac 11, ond gallwch chi ofyn am gael gweld Cynghorydd Gyrfa ar adegau eraill os oes angen. Mae Cynghorwyr Gyrfa hefyd ar gael i’ch helpu chi pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol neu’r coleg a drwy gydol eich bywyd fel oedolyn.
- Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn rhad ac am ddim i bawb sy’n byw yng Nghymru.





