Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Final Fantasy XIII

Postiwyd gan Ragnarok o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 24/12/2011 am 10:56
1 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden, Technoleg

  • FF

English version

Gyda'r dilyniant nawr wedi'i ryddhau yn Japan ac yn cyrraedd glannau Ewrop yng Ngwanwyn 2012, penderfynais ei bod hi'n hen bryd dychwelyd i fyd Final Fantasy XIII ac ysgrifennu adolygiad ohono cyn dychwelyd yn y flwyddyn newydd gydag adolygiad o XIII-2.

A chyn i unrhyw un fod yn goeglyd a dweud "disgwyl, dyma'r 13eg dilyniant i Final Fantasy?" Na, mae pob rhif yn wahanol. Mae X yn wahanol i VI. Nid II ydy'r dilyniant i !. Wedi dweud hynny, X-2 ydy'r dilyniant uniongyrchol o X. Ydw i wedi gwneud hyn yn glir? Gwych, gad i ni barhau.

Y Stori

I osod yr olygfa heb ollwng bom difetha yma, mae'r stori yn dilyn grŵp o bobl sydd yn dod yn elynion byd eu hunain, gyda phob un â nod gwahanol, bod hyn yn achub person maent yn ei garu neu'n newid y byd er gwell. Er bod y stori efo'i adegau llawn Wensleydale (mae'n JRPG wedi'r cwbl), mae'n debyg mai dyma un o'r straeon gorau yn y gyfres. Os fedri di ddioddef ychydig o cheddar yna byddet yn cael dy wobrwyo gyda chracers o stori anhygoel.

Y Chwarae

Ni fyddai hwn yn deitl Final Fantasy heb y sustem ymladd, ac mae Square Enix wedi creu un o'r sustemau ymladd mwyaf tactegol yn Final Fantasy. Ia, dwi'n gwybod fod pob un efo awgrym o ymwybyddiaeth dactegol o'u cwmpas, ond mae'r sustem Paradigm XIII yn gwneud i ti feddwl mwy nag gemau eraill.

Mae chwe rhôl i arbrofi gydag yn ystod y gêm, o'r comando sy'n delio difrod i'r catalydd sy'n cefnogi'r cynghreiriaid. Mae pob cymeriad gyda'i arbenigedd a'i wendid ei hun felly nid fydd parti pawb yr un peth.

Tra mae'r system Paradigm yn wych, yr unig beth negyddol gallai pobl deimlo gyda hwn ydy mai dim ond un cymeriad gall reoli ar un adeg, a'r arweinydd ydy hwnnw. Hefyd, ni all newid arweinydd y parti. Sydd yn golygu, os ydy'r arweinydd yn marw yna mae'r gêm yn dod i ben. Tra bod y mwyafrif yn meddwl fod hyn yn broblem , dwi'n eithaf hoff o'r nodwedd hon, er mae yn teimlo fel ergyd i'r stumog pan ti'n ymladd bos am ddeg munud ac yn sydyn mae'r bos yn delio ymosodiad marwol parod ar yr arweinydd ac maent yn disgyn yn syth gan olygu bod rhaid ail-gychwyn y frwydr. A chreda di fi, bydd hyn yn digwydd. Mae'n dal i ddigwydd i mi ar adegau, a dwi wedi cwblhau'r stori o leiaf pum gwaith.

Rhywbeth arall sydd yn siom ydy'r ffaith fod y gwysion yn y gêm hon (adnabuwyd fel Eidolins yn XIII) yn eithaf gwan o gymharu â'r gwysion mewn gemau eraill. Oes, mae ganddynt allu ac animeiddiad eithaf gwych, ond ti'n teimlo fod eu potensial mewn delio difrod yn gostwng llawer y hiraf ti'n chwarae'r gêm.

Cwyn arall dwi'n clywed gan feirniaid ydy fod y gêm yn rhy linol, a dwi'n meddwl fod hyn yn chwerthinllyd. Iawn, nid yw mor agored â chenhedlaeth gyntaf y gemau Final Fantasy, ond dyw'r llinellol yn ddim gwahanol i'r degfed ran yn y gyfres. Yn bersonol dwi'n eithaf hoff o'r ffordd mae'r gêm wedi'i strwythuro, hyd yn oed oes yw hwn yn cael ei gysidro'n llinol.

Y Graffeg

Mae'r gyfres Final Fantasy yn enwog am ei graffeg a dydy XIII yn ddim gwahanol. Mae Square Enix wedi gwneud eu gorau gyda'r gêm yma, yn cystadlu yn erbyn gemau fel Uncharted 3 sydd wedi cael ei ryddhau ar ôl Final Fantasy XIII. Mae'n eithaf dychrynllyd pa mor anhygoel ydy'r amgylchedd, fel lleoliad y bennod gyntaf The Hanging Edge, sydd yn cael ei weld gyntaf yng ngolygfa gyflwyniadol y gêm.

Wrth gymharu'r gêm ar yr Xbox 360 a'r PS3, nid oes gwir wahaniaeth rhwng y ddau. Mae'r ddau gonsol yn rhedeg y gêm yn hyfryd. Wedi dweud hynny, dwi wedi darganfod fod y fersiwn 360 yn gallu arafu weithiau pan fydd llawer o bynciau ar y sgrin ar yr un cyfnod, tra nad oes problem gyda’r fersiwn PS3. Wedi dweud hynny, os wyt ti yn mynd gyda'r fersiwn 360, dyw'r munud yna o arafu ddim yn tynnu o'r profiad ar y cyfan.

Y Cymeriadau

Mae chwe phrif gymeriad yn y stori, ac mae pob un yn wahanol. Wedi dweud hynny, mae'n glir fod marched yn dominyddu'r gêm yma, gan eu bod yn gyrru'r gêm ac yn llawer mwy uwchraddol pan ddaw at ddatblygiad cymeriad. Wel, heblaw am Sazh, mae o efo chocobo yn byw yn ei wallt, nid all wadu fod hyn yn rhywbeth sydd yn deilwng i'r dref-ffynci, na?

Ond heblaw am Sazh, mae'r ddau gymeriad gwrywaidd arall yn siomedig braidd. Tra bod yn berson myfiol sydd yn honni bod yn arwr (sydd yn cyfeirio at Balthier yn hawlio bod yn "dyn arweiniol" XII), mae'r llall yn fachgen cyn-llencyndod yn swnian ac sy'n fwy tebyg i gath emo nag llew dewr.

A dyna ble mae'r merched yn dominyddu'r gêm. Mae arweinydd y grŵp mor graidd caled fel bod ganddi lysenw i'w llysenw. Mae hynny, ynghyd â'i llafn-ddryll, yn diferu epigolrwydd.

Y Trac Sain.

Wrth siarad am y trac sain, mae'n bendant yn ymadawiad o'r arfero. Wedi mynd mae pethau arferol y gêm fel y ffanffer buddugoliaeth ac i mewn daw un o'r traciau sain gorau o'r flwyddyn gemau. Wir, Lightning Theme, o bosib, ydy un o'r themâu mwyaf prydferth i gymeriad sydd wedi cael ei greu erioed, tra mae thema'r brif frwydr yn gyfuniad epig o gerddoriaeth gerddorfaol a roc.

A'r peth gorau yw, ta waeth pa mor aml ti'n eu clywed, nid ydynt yn diflasu. Creda di fi. Dwi wedi chwarae dros 100 awr ar y gêm a dwi dal i rocio allan bob tro byddaf yn clywed thema'r brif frwydr.

Y Farn

Mae'n wir, nid yw bob gêm yn berffaith, ond mae Final Fantasy XIII yn agos pan ddaw at RPGs (gemau chwarae rhan). Iawn, os ti ddim yn ffan o gemau chwarae rhan yn gyffredinol, yna efallai na fyddai o ddiddordeb i ti. Ond os wyt ti'n rhoi'r oriau i mewn iddo ac yn dioddef rhai o'r adegau mwy cawslyd, yna byddet yn cael dy wobrwyo gydag un o'r gemau goraf i gael ei ryddhau yn 2010.

A gyda Final Fantasy XIII-2 yn cael marciau llawn gan gylchgrawn gemau blaenllaw Japan, mae'n glir gweld fod y cyfnod yma ym myd Final Fantasy yn un da.

1 CommentPostiwch sylw

Ploppy McDougle

Ploppy McDougle

Rhoddwyd sylw 4 mis yn ôl - 4th January 2012 - 12:15pm

jest wedi prynnu'r gem yma allan o fy arian Nadolig. Dwi'n tua awr mewn. Gobeithio fyddai'n dwaed yr un peth a ti, Ragnarok.

Adolygiad ardderchog. Da iawn ti! :)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.