Ymdopi Gydag Anabledd
English version
Wyt ti'n gwybod sut beth ydy bod ag anabledd? Beth os oes rhaid i ti fod yn ddibynnol ar eraill oherwydd anabledd?
Mae nifer o bobl efo anabledd ond mae ganddynt yr un hawliau a ti. Mae rhai pobl efo anabledd neu anhawster dysgu a byddet ti ddim yn gwybod trwy edrych arnynt. Dyna pam fod y Ddeddf Cyfle Cyfartal yn bodoli, lle mae'n rhaid i gyflogwyr cadw ato a thrin pawb yr un peth.
Ond beth os wyt ti wedi cael dy eni gydag anabledd?
Pan ti'n cael dy eni gydag anabledd, ti ddim yn gwybod sut beth ydy bod yn abl. Yn ddibynnol ar ddyfnder dy gyflwr, efallai bod rhaid i ti ddibynnu ar dy rieni, dy ffrindiau, neu unrhyw un sydd o gwmpas. Pan fydd hyn yn digwydd ti'n wynebu cyfyngiadau lle gallet wneud dim. Yn fy marn i, y peth anoddaf ydy gwylio dy ffrindiau yn gwneud tasg a fedri di ddim gwneud y dasg.
Pam mae gen ti ffrind sydd efo anabledd, efallai ti eisiau bod yn ymwybodol o'u hanghenion a pryd hoffent gael cymorth fel eu bod yn teimlo'n gyffyrddus yn gwneud gweithgaredd.
Sut wyt ti eisiau cael dy drin?
Wrth gymryd gofal o rywun, wyt ti'n meddwl byth sut beth fydda ef os byddai pethau yn groes? Mae rhai pobl yn cael eu trin mor ddrwg, a ddim yn gallu siarad a dweud wrth bobl am eu problemau.
Sut fydda ti'n ymdopi?
Mae pobl yn ymdopi mewn ffyrdd gwahanol: mae rhai yn dweud wrth eu ffrind am eu problemau, dyw rhai ddim eisiau meddwl am fod yn anabl am ei fod yn gwneud nhw'n isel. Dywedodd person hyn wrthyf unwaith: "mae iwnifform fel bod yn anabl ond gydag un gwahaniaeth… gall dynnu'r iwnifform i ffwrdd". Eisteddais yna am ychydig yn meddwl am hyn, ac yna meddyliais nad oedd yn ymwneud â'r iwnifform, ond mai'r person sydd yn yr iwnifform sydd yn cyfrif.
Pam fy mod i'n cael fy mwlio am fod fel hyn?
Fel arfer mae pobl yn bwlio oherwydd bod pobl yn sefyll allan o'r dorf a ti ydy'r targed hawdd. Mae rhai pobl yn ei wneud am nad ydynt yn deall pam fod pobl yn wahanol i bawb arall.
Fy enw i ydy Shaun ac mae gen i Barlys yr Ymennydd (Cerebral Palsy). Dwi ddim yn gadael i'm hanabledd i atal fi fod mor 'arferol' â phosib. Dwi'n 20 oed nawr a dwi wedi cyflawni cymaint:
- Dwi wedi bod yn weithgar iawn yn fy nghymuned fel gwirfoddolwr lleol
- Dwi'n gwirfoddoli yn Grŵp Gofal Coedpoeth a'r Cylch sydd yn darparu ar gyfer pobl gydag anableddau meddyliol a chorfforol.
- Dwi'n gwirfoddoli yn y clwb cinio lleol yn gweini swper i bobl hŷn
- Dwi wedi cynrychioli Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr fel Llysgennad Ifanc ar gyfer y Llewod Rhyngwladol
- Dwi wedi bod ar Fordaith Llong Dal lle dwi wedi goresgyn ychydig o ofnau, e.e. dringo'r rigin, a helpu docio'r llong.
- Gwirfoddolais yn fy nghlwb ieuenctid lleol ac yn yr Orsaf Heddlu Lleol
Dyma'r prif weithgareddau dwi wedi'i gyflawni ynghyd â llawer mwy.
Hoffwn i'r erthygl yma fod yn un calonogol i bawb ac nid i bobl gydag anableddau yn unig.
'Gall unrhyw un wneud unrhyw beth os wyt ti'n rhoi dy feddwl iddo!!!'
Erthyglau Perthnasol:
Dolennau Gwybodaeth:
Lwfans Byw i'r Anabl
Ariannu Budd-daliadau Anabledd









