Welsh Libraries Festival / Gŵyl Llyfrgelloedd Cymru
- Date:
- Thursday, 20th - Sunday, 30th January 2011
- Venue:
- Libraries across Wales
- Age Restrictions:
- No Min Age
- Cost:
- Free
Bydd Gŵyl Llyfrgelloedd Cymru yn tynnu sylw at ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ledled Cymru i’r teulu i gyd. Cymerwch ran mewn sesiynau ioga a maldod; dysgwch am hanes eich teulu neu ewch ati i ddefnyddio cyfrifiadur am y tro cyntaf. Neu, beth am gael tipyn o hwyl a rhoi cynnig ar weithgarwch celf a chrefft newydd.
Dywedodd yr adroddwr tywydd Derek Brockway: “Yr her a gefais oedd rhoi cynnig ar rywbeth newydd mewn gwahanol lyfrgelloedd ar draws Cymru. Yn ystod yr ŵyl byddaf yn cael gwybod am sut i fyw yn yr awyr iach gan yr arbenigwr Andrew Price yn Nhrefynwy. Hefyd byddaf yn dysgu gwau yn Llyfrgell Aberdaugleddau a rhoi cynnig ar rapio gyda’r rapiwr Cymraeg enwog Ed Holden yn Llyfrgell Bangor – alla’i ddim disgwyl! Mae’n dangos bod llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy na llyfrau a’u bod yn darparu ar gyfer pob math o hobïau a diddordebau.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei lansio ar 20 Ionawr gan y Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones a Derek Brockway yn Llyfrgell Trefynwy. Cofiwch edrych am fanylion digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi ar www.ybiblis.com. Neu cysylltwch â’r trefnwyr ar y manylion isod.
----------------------------------------------
The Welsh Libraries Festival will highlight events happening in libraries across Wales for all the family. Take time out with yoga and pamper sessions; learn about your family history or take your first steps to using a computer. Alternatively, come and have a bit of fun and try out a new arts & craft activity.
Weatherman Derek Brockway commented: “I’ve been set a challenge to try something new at different libraries across Wales. During the festival I will be shown survival techniques with expert Andrew Price in Monmouth. I will also be learning to knit at Milford Haven Library and trying out a bit of rap with renowned Welsh rapper Ed Holden at Bangor Library – I can’t wait! It just goes to show that libraries offer much more than books and cater for all types of hobbies and interests.”
The festival will be launched on Thursday 20 January by the Heritage Minister Alun Ffred Jones and Derek Brockway at Monmouth Library. Visit www.thebiblis.com for details of events happening in your area. Alternatively, contact the organisers:
Jane Purdie / Nicola Williams
Llyfrgelloedd am Oes / Libraries for Life
c/o Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam / Wrexham County Borough Council
Stryd Lambpit Street
Wrecsam / Wrexham
LL11 1AR
Ffôn / Phone: 01978 297437
E-bost: jane.purdie@wrexham.gov.uk / nicola.williams@wrexham.gov.uk
Related Links:







