Cystadleuaeth Stori Fer! (Diweddariad)
*********************************
Mae'r gystadleuaeth hon wedi cau. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y 5ed o Awst yn ystod parti lansio theSproutZine2 yn Grassroots ar Charles St. Am fanylion pellach, edrycha yma.
Ymgeiswyr:
- I Escaped gan RoLouG
- Hearing Denial gan sarah x
- Bullied gan kelleee
- Burning Embers (Part One) gan Sambow
- My First Prayer gan lemonnhead
- Home gan Opal_Eyes
- The Violinist gan emb789
- At The Soundless Dawn gan cynicforhire
- Playing With Lives - Part One gan cardiffgirl
- The Valentines Card gan Faymondo:)
- The Mirror - Part One gan Faymondo :)
- The Veteran gan abhijanb
- Walking A Mile To Get Around The Corner gan Summerlou
- Playing With Lives - Part Two gan cardiffgirl
- The Expeditionary From Hiroshima gan Slugs
Pob lwc!
*********************************
I ddathlu lansio eu llyfrau newydd, mae’r awduron lleol, Jaque Thay a Lynda Nash wedi cydweithio gyda theSprout i gynnal cystadleuaeth ysgrifennu creadigol.
Mae Jaque a Lynda, sydd ill dau yn raddedigion Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Morgannwg, wedi cyhoeddi eu gwaith yn flaenorol yn Antholeg Ysgrifennu Creadigol Daps.
Mae llyfr cyntaf Jaque Thay o straeon byrion, Jaque's Magic Beans & other stories, a Ashes of a Valleys Childhoodgan Lynda Nash, allan bellach ac mae’r awduron yn teithio Cymru ar hyn o bryd fel rhan o Bookfest Oxfam.
Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn copi wedi ei arwyddo o Jaque's Magic Beans & other stories ac Ashes of a Valleys Childhood yn ogystal â thaleb llyfr £10 i Waterstone’s.
Sut i ymgeisio:
Mae’r rheolau’n syml – cyflwynwa stori o 1500 o eiriau neu lai i theSprout cyn Gorffennaf 26ain ac fe gei di ymgeisio am y gystadleuaeth (mae hynny’n golygu bod gen ti lai na 3 wythnos, felly cer ati i ysgrifennu!).
Gall ysgrifennu am unrhyw beth o dy ddewis a bydd Jaque a Lynda yn eu darllen i gyd! Byddant yn cyhoeddi eu hoff stori ar Awst 6ed.
Gall fod yn ffeithiol neu yn ffuglen, a gall hyn yn oed fod yn ddetholiad o ddarn mwy. Ychwanega'r geiriau ‘Cystadleuaeth Stori Fer’ at y teitl neu eu rhoi ar dop y darn wrth ei gyflwyno, er mwyn i ni wybod dy fod yn dymuno iddi gael ei chyflwyno.
Os dymunir cyflwyno stori sydd ar theSprout yn barod, e-bostia dan@thesprout.co.uk gyda’r teitl ac fe fydd e’ yn gwneud yn siŵr y bydd yn cael ei chyflwyno.
Rhaid i ti fod rhwng 11 a 25 oed pan wyt ti'n ymgeisio ac yn byw yng Nghymru.
Ceisiadau Cyfredol:
Pob lwc!










